Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
Dros ryddid collasant eu gwaed.
Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad.
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r heniaith barhau.
Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd;
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i mi.
Os treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed,
Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.
Другие названия этого текста
- Anthem of Wales - Hen Wlad Fy Nhadau (Land of My Fathers) (0)
- Côr Y Byd - Hen Wlad Fy Nhadau (0)
- Côr Meibion Pontypridd - Mae Hen Wlad Fy Nhadau (0)
- Anthem of Wales - Hen Wlad Fy Nhadau (0)
Статистика страницы на pesni.guru ▼
Просмотров сегодня: 2