Lloer dirion, lliw’r dydd, Mewn poen ac mewn penyd, Mewn breuddwyd rwy’n brudd; Trwy syndod rhyw syw Mae’r galon mor gwla Ni fydda’i fawr fyw; Pan welais dy wedd, Ti a’m clwyfaist fel cledd, Ces ddolur heb wybod, Rwyf heno’n un hynod Yn barod i’m bedd: O dduwies fwyn dda, Clyw glwyfus ddyn cla’, O safia fy mywyd Loer hyfryd liw’r ha’; Mae rhai â’u bryd ar bethau y byd, Ond ar lendid lloer wiwlan Rhoes i fy holl amcan Yn gyfan i gyd: Pe cawn ond tydi, Mi ddwedwn yn hy’ Fod digon o gyweth Wen eneth gen i.