Гуру Песен Популярное
А Б В Г Д Е Ж З И К Л М Н О П Р С Т У Ф Х Ц Ч Ш Э Ю Я
# A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z

Charlotte Church - Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech | Текст песни

Wele goelcerth wen yn fflamio
A thafodau tân yn bloeddio
Ar i'r dewrion ddod i daro,
Unwaith eto'n un:
Gan fanllefau'r tywysogion,
Llais gelynion, trwst arfogion,
A charlamiad y marchogion,
Craig ar graig a gryn
Arfon byth ni orfydd,
Cenir yn dragywydd;
Cymru fydd fel Cymru fu,
Yn glodfawr ymysg gwledydd;
'Ngwyn oleuni'r goelcerth acw,
Tros wefusau Cymro'n marw,
Annibyniaeth sydd yn galw,
Am ei dewraf ddyn.

Ni chaiff gelyn ladd ac ymlid
Harlech! Harlech! cwyd i'w herlid
Y mae Rhoddwr mawr ein Rhyddid
Yn rhoi nerth i ni.
Wele Gymru a'i byddinoedd
Yn ymdywallt o'r mynyddoedd!
Rhuthrant fel rhaeadrau dyfroedd,
Llamant fel y lli!
Llwyddiant i'n marchogion
Rwystro gledd yr estron!
Gwybod yn ei galon gaiff,
Fel bratha cleddyf Brython;
Y cledd yn erbyn cledd a chwery,
Dur yn erbyn dur a dery,
Wele faner Gwalia'i fyny,
Rhyddid aiff â hi!

Статистика страницы на pesni.guru ▼
Просмотров сегодня: 1
Видео
Нет видео
-