Bu'r Cymro yn cerdded y llwybrau cynefin drwy'r oesau, Yn crafu bywoliaeth ddigysur o gaenen o bridd, Yn gwarchod ei fywyd wrth warchod y noethlymun erwau, Wrth ganlyn yr arad a dilyn yr og ar y ffridd. Dringodd y creigiau a holltodd y llechfaen yn gywrain Turiodd i grombil y ddaear i geibio'r glo, Gwnaeth gyfoeth i eraill, a gwelodd gyfeillion yn gelain A chyfoeth hen ffydd a hen eiriau oedd ei gyfoeth o.
Cytgan: Ond cerddwn ymlaen Cerddwn drwy ddŵr a thân Cerddwn a ffydd yn ein cân Ymlaen — cerddwn ymlaen.
Bu farw Llywelyn, Llyw Olaf y Cymry yng Nghilmeri Saith canrif yn ôl ar yr eira diferodd ei waed. Ar bicell fe gariwyd ei ben ar hyd heolydd Llundain A'r dorf yn crochlefain i ddathlu'r fuddugoliaeth a gaed. Saith canrif o ormes caethiwed a gafwyd ers hynny Saith canrif o frwydro a diodde dan gyfraith y Sais Ond er dichell pob bradwr a chynllwyn pob taeog a chachgi Mae'r Cymry ar gerdded, a'r bobol yn codi eu llais.
A cerddwn ymlaen...
Валлиец шагал по знакомым тропкам сквозь века, Наскребал на неустроенное существование с клочка земли, Поддерживал свою жизнь, заботясь о пустынных акрах, Идя за плугом и бороня поля в горах. Забирался на скалы и искусно расщеплял сланец, Закапывался в недра земли, чтобы добыть уголь, Создавал богатство другим и видел трупы друзей. И все его богатство было — древняя вера и древние слова.
Cytgan: Но мы идем вперед, Идем сквозь огонь и воду, Идем с верой в нашей песне, Вперед — идем вперед.
Погиб Лливелин, Последний правитель валлийцев, в Килмери. Семь столетий назад на снег пролилась его кровь. На пике носили его голову по улицам Лондона, И толпа орала, праздную добытую победу. Семь столетий ига рабства получили с тех пор, Семь столетий борьбы и страдания под законом англичан, Но, несмотря на коварство всех предателей и интриги всех рабов и трусов, Валлийцы идут, и народ повышает свой голос.