Гуру Песен Популярное
А Б В Г Д Е Ж З И К Л М Н О П Р С Т У Ф Х Ц Ч Ш Э Ю Я
# A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z

Datblygu - Can I Gymry | Текст песни

In Welsh:

Gradd da yn y Gymraeg
Ar y volvo bathodyn tafod y ddraig
Hoff o fynychu pwyllgorau blinedig
am ddyfodol yr iaith yn enwedig

Meistroli iaith leiafrifol fel hobi
Platiau dwyieithog i helpu’r gyrru
Agwedd gwbwl addas
ar gyfer cynllun catrtef syth mas o set dinas

Wastad yn mynd i Lydaw byth yn mynd i Ffrainc
Wastad yn mynd i Wlad y Basg, byth yn mynd i Sbaen

Fin nos yn mynychu bwytai
Wedi dydd ar y prosesydd geiriau
Mewn swydd sy’n talu’r morgais
I’ch gwyneb person gwbl gwrtais

O’r ysgol feithrin i brifysgol Cymru
Tocyn oes ar y tren grefi
Bydde well da fi fod yn jynci
Na bod mor wyrdd a phoster Plaid Cymru

Darnau gosod yr wyl Gerdd Dant
A’r holl broblemau’r ddau o blant
Gwersi telyn a Llinos wyn
a phroblem acni Llywarch glyn

heb anghofio codi stwr
am straen angeuol job y gwr
Mae’n gorfod gweithio un tan tri
Yn gynghyrchydd BBC

Llosgwch eich tafodau ar eich paneidi piwritanaidd
Collwch eich dynoliaeth mewn economeg academaidd
Enwch gyfeillion sy’n enwogion gyd o’r seiri ryddion
Trafodwch tapiau corau meibion fel un o’r themau ar Hel Straeon

Rhifau cynulleidfar oedfa
pa liw leni i’r lolfa
Tiwtoriaid preifat i helpu’r plant
neuadd dewi sant

Digon o wyliau i gynnal lliw haul
Digon gwrth-brydeinig i swnio fel Zeg Heil
Digon gwrth-brydeinig i swnio fel Zeg Heil

Meistroli iaith leiafrifol fel hobi
Dweud bod cymru’n cael ei orthrymu
Er bod eich ceir ach stikers tafod y ddraig
Cawsoch radd da yn y Gymraeg

Gradd da yn y gymraeg
Gradd da yn y gymraeg
Gradd da yn y gymraeg
Yn eich Volvos bathodyn tafod y ddraig

Gradd da yn y gymraeg
Gradd da yn y gymraeg
Gradd da yn y gymraeg
Cymraeg Cymraeg Cymraeg Cymraeg

Gradd da yn y gymraeg
Ar y volvo bla bla bla that’s done!

Datblygu еще тексты


Видео
    Нет видео
    -
    Оценка текста
    Статистика страницы на pesni.guru ▼
    Просмотров сегодня: 5