(Welsh folk song)
Dacw 'nghariad i lawr yn y berllan,
Tw rymdi ro rymdi radl idl al.
O na bawn i yno fy hunan,
Tw rymdi ro rymdi radl idl al.
Dacw'r ty, a dacw'r 'sgubor;
Dacw ddrws y beudy'n agor.
Ffaldi radl idl al, ffaldi radl idl al,
Tw rymdi ro rymdi radl idl al.
Dacw’r dderwen wych ganghennog,
Golwg arni sydd far serchog.
Mi arhosaf yn ei chysgod
Nes daw ‘nghariad i ‘ngyfarfod.
Dacw'r delyn, dacw'r tannau;
Beth wyf gwell, heb neb i'w chwarae?
Dacw'r feinwen hoenus fanwl;
Beth wyf nes heb gael ei meddwl?
Eve Goodman еще тексты
Оценка текста
Статистика страницы на pesni.guru ▼
Просмотров сегодня: 4