Гуру Песен Популярное
А Б В Г Д Е Ж З И К Л М Н О П Р С Т У Ф Х Ц Ч Ш Э Ю Я
# A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z

Fernhill - Daniel Sgubor | Текст песни

O Gwcw fach lwydlas lle fuest ti cyd
Mar hir heb ddychwelyd ti fuws yn fud
Mar hir heb ddychwelyd ti fuws yn fud

Ti gollaist dy amser bythefnos yn mron
Ti ddest yn y diwedd a'th ganiad yn llon
Ti ddest yn y diwedd a'th ganiad yn llon

Mi godais fy aden yn uchel i'r gwynt
Gan feddwl bod yma dair wythnos yn gynt
Gan feddwl bod yma dair wythnos yn gynt

Fy amser i ganu yw Ebrill a Mai
A hanner Mehefin chwi wyddoch bob rhai
A hanner Mehefin chwi wyddoch bob rhai

Nid ynrhyw gamsynied paid meddwl mor ffol
Ond oerwynt y gogledd a'm cadwodd yn ol
Ond oerwynt y gogledd a'm cadwodd yn ol

Os oerwynt y gogledd a gadwest ti yn ol
Pam ethost i gerdded, dwed pam oet mor ffol
Pam ethost i gerdded, dwed pam oet mor ffol

Pam na allet lechu mewn rhywle ffor'yn
Yng ngelltydd Alltrodyn neu fron Gwaralltryn
Yng ngelltydd Alltrodyn neu fron Gwaralltryn

Mae gelltydd Alltrodyn yn wir yn rhy hyll
Mae Dai Penrhiwceule'n mynd yno a'i ddryll
Mae Dai Penrhiwceule'n mynd yno a'i ddryll

Os digwydd fy ngweled neu glywed fy llais
Fe'm saetha os galla yn syth dan fy ais
Fe'm saetha os galla yn syth dan fy ais

Cyn elot ar gerdded dwed ble rwyt ti'n mynd
Eglura'r dirgelwch i ambell i ffrind
Eglura'r dirgelwch i ambell i ffrind

Ddaw neb i dy ganlyn, does undyn mor ffol
Cei eto lawn croeso pan ddelot yn ol
Cei eto lawn croeso pan ddelot yn ol

O gadw'r dirgelwch caf heddwch fel hyn
Ffolineb o'r mwyaf yw dweud wrth undyn
Ffolineb o'r mwyaf yw dweud wrth undyn

Ffarwel i chwi eleni ffarwel i chwi oll
Cyn y delwyf i yma nesaf bydd miloedd ar goll
Cyn y delwyf i yma nesaf bydd miloedd ar goll

Bydd llawer merch ifanc yn isel ei phen
Cyn y delwyf yma nesa i rhoi caniad ar bren
Cyn y delwyf yma nesa i rhoi caniad ar bren
---
DANIEL SGUBOR. Daniel Sgubor wrote the words to "Ymddyddan rhwng y Bardd â'r Gwcw" in the eighteenth century in his native Clettwr Valley. It is about loss in the wide sense of the word and is completed by a comic passage in the middle. Some of the words are from a version of the song from Llŷn. The words are set to a different mode and rhythm than usual. Ceri made the second tune.

Статистика страницы на pesni.guru ▼
Просмотров сегодня: 1
Видео
  • Fernhill ~ "Daniel Sgubor" Fernhill ~ "Daniel Sgubor"
    Lovely Welsh song from their 1998 album Llatai (which means blackbird), with some sleeve art ...
  • fernhill - new song fernhill - new song
    Fernhill live at Theatre Moliere, Brussels, January 2010. This is a new song featuring lyrics from ...
  • Fernhill - Cowboi Fernhill - Cowboi
    i have a grey, white-faced cow she goes to the gate to lay and the small hen sitting on the calf ...