mari lan a mari lon a mari dirion doriad mari ydyw'r fwyna'n fyw a mari yw fy nghariad ac onid ydyw mari'n lan ni wiw i sian mo'r siarad mari lan a mari lon a mari dirion doriad dacw dacw fuwch ac arni gyrnau gleision nid am y fuwch rwy bron a thorri ynghalon ond am y ferch lle rhoddais i fy serch pan welais yn ei godro dacw stwc ac arni gylchau gloywon nid am y stwc rwy bron a thorri ynghalon ond am y ferch lle rhoddais i fy serch pan welais i yn ei chario dacw rwm a'i llond o lestri ddigon nid am y rwm rwy bron a thorri ynghalon ond am y ferch lle rhoddais i fy serch pan welais i'n eistedd yno ma merched bach llantrisant yn ynod off o foliant a breichiau llanc yn gwasgu'n clos yn danso nos y mabsant ma lot o ladies cyman yn byw ger forj aberafan sal a bet a'r gwraig sionet sdim shwt set gan satan ma merched bach y blaina yn off o gapa lasa motrw aur ar ben bob bys a chwt eu chrysa'n llapra ynghariad i eleni yn gweini ar y bili twym yw'r serch o dan ymron ynghalon bron a ffili