Dyma’r awyr a oleuoedd Cymru
Dyma’r gan o fynyddoedd Mynwy
Dyma’r llwydni lleithiog ‘stiniog
Dyma Eryri a’i Duwiau miniog
Cysgu tawel plant y meirw
Coron goll ymysg y ceirw
Y diwedd pell yn araf gwichian
Rhwng y dwylo dydd yn llithrian
Hwn yw tad llofraddiol cenedl
Pen mewn tywod i wadu’r perygl
O’n Blaenau golau tywyll gorllewin
Yn ddrych i grysau coch a cennin
Cysgu tawel plant y meirw
Coron goll ymysg y ceirw
Y diwedd pell yn araf gwichian
Rhwng y dwylo dydd yn llithrian
Mae pob diferyn o gof eln dyffrynnoedd
Yn gyflym sychu ym moliau’n llynnoedd
A’r Cymry’n wylo am ddoe na fu
A dim’r ôl ond draig a mwg drwg du
Cysgu tawel plant y meirw
Coron goll ymysg y ceirw
Y diwedd pell yn araf gwichian
Rhwng y dwylo dydd yn llithrian
Jim Rowlands еще тексты
Оценка текста
Статистика страницы на pesni.guru ▼
Просмотров сегодня: 1