Mae'r durtur ber yn canu a'r byd yn gorfoleddu mewn gwir fyw lwyddiant
A choed y maes sydd eto oll fel yn curo dwylo mewn clod a moliant
Ca'r gwyn a gwridog fawl am hyn llu'r nef a'i moliant a'r llawr cydganant hwy'n un enynant pob un a'i dant yn dyn a'u tanllyd anthem iddo nes deffro bro a bryn
Mewn pryd iachawdwr mawr y byd ddaeth ar ei orsedd i roi trugaredd i blant y llygredd fu mhwll eu camwedd cyd teyrnasa dirion iesu yw gwaedd ei delu i gyd