Nid wy'n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na'i berlau mân:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.
Cytgan:
Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu —
Canu'r dydd a chanu'r nos.
Hwyr a bore fy nymuniad
Esgyn ar adenydd cân
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi i mi galon lân.
Статистика страницы на pesni.guru ▼
Просмотров сегодня: 1