Dacw dadi'n mynd i'r ffair I brynu fuwch i fwyta'r gwair I gael rhoi menyn yn y styciau I dalu rhenti Jones y Parciau Dacw dadi wedi dod yn ôl Dadi ga i fynd a'r fuwch i'r ddôl Bore fory, cyn i chi ddeffro Mi af i i'r beudy i ddysgu sut i odro Mw Mw Mw meddai'r gwartheg ar y ddôl Bo Wo Wo meddai Pero ar eu hôl Pero Pero, taw y cyfarth A dôd a'r buchod i odro yn y buarth