Cytgan: Mae nhw isho dynion pymtheg stôn lawr y lôn, lawr y lôn Mae nhw isho breichau hyd y bôn, lawr y lôn Os oes gen t'ir gyts, os oes gen t'ir brôn Mae nhw'n talu'n dda yn ôl y sôn Mae crochan aur y lepracon lawr y lôn
Dwi wedi rhoi fy oes i'r gwaith, lawr y lôn, lawr y lôn Dwi wedi slafio oriau maith lawr y lôn Dwi wedi byw mewn cytia llaith Dwi wedi casglu llawer craith Ond mi rydw i'n dal i neud y daith lawr y lôn
Mae'n rhaid i mi fynd ar ei ôl lawr y lôn, lawr y lôn Mae'n fywyd gwell na byw ar dôl lawr y lôn Does gen i'm gobaith job yn nes Mae'n rhaid i minnau bacio 'nghês Mae angen rhai sydd angen pres lawr y lôn
Cytgan: Mae nhw isho dynion…
Dwi wedi rhoi fy nyddiau i gyd lawr y lôn, lawr y lôn Gan g'ledu wedi bod cynyd lawr y lôn Ond neddiw mae 'di dod yn bryd I hel meddyliau du o hyd Beth ges i nôl ffeirio 'myd lawr y lôn
Mae'n rhaid myn adre, mynd tua thre fyny'r lôn, i fyny'r lôn Gwn innau'n iawn fod glasach ne' fyny'r lôn Ar y rig neu fotorwê Mi rown i fwy na dwbwl pê Am haul y bore mewn un lle fyny'r lôn