Гуру Песен Популярное
А Б В Г Д Е Ж З И К Л М Н О П Р С Т У Ф Х Ц Ч Ш Э Ю Я
# A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z

Plethyn - Y Gwylliaid | Текст песни

Cytgan :

Y Gwylliaid yn y gwydd
dewch ynghyd, dewch ynghyd
Y Gwylliaid yn y gwydd
dewch ynghyd
Y Gwylliaid yn y gwydd
Rhaid taro 'ngolau dydd
I gadw'n traed yn rhydd
Mae hi'n bryd, mae hi'n bryd
I gadw'n traed yn rhydd
Mae hi'n bryd

Y gyfraith roes y gair
gyda rhaff, gyda rhaff
Y gyfraith roes y gair
gyda rhaff
Y gyfraith roes y gair
A byddwn Ddygwyl Mair
Yn crogi yn y ffair
ddigon saff, ddigon saff
Yn crogi yn y ffair
ddigon saff

(Cytgan)

Mae clogyn Rowland Lee
i'w foddhad, i'w foddhad
Mae clogyn Rowland Lee
i'w foddhad
Mae clogyn Rowland Lee
Yn goch o'n gwaedu ni
O fwrdro caiff ei sbri
yn ein gwlad, yn ein gwlad
O fwrdro caiff ei sbri
yn ein gwlad

(Cytgan)

Ni all deddfau du a gwyn
ladd y gwir, ladd y gwir
Ni all deddfau du a gwyn
ladd y gwir
Ni all deddfau du a gwyn
Fyth dorri'r bobl hyn
Fe gadwn gof ynghyn
drwy ein tir, drwy ein tir
Fe gadwn gof ynghyn
drwy ein tir

(Cytgan)

sian

Plethyn еще тексты


Статистика страницы на pesni.guru ▼
Просмотров сегодня: 1
Видео
  • Tan yn Llyn - Plethyn Tan yn Llyn - Plethyn
    Can: Tan yn Llyn Artist: Plethyn Mae'r gan yma'n olrhain hanes y tan cafodd ei ...