Ar fore Dydd Nadolig Esgorodd y Forwynig Ar Geidwad bendigedig, Ym Methlem dref y ganwyd Ef, Y rhoes ei lef, drosom ni. O Geidwad aned, Fe wawriodd arnom ddydd.
Dros euog ddyn fe’i lladdwyd, Ac mewn bedd gwag fe’i dodwyd Ar ol y gair “Gorffenwyd”. Ond daeth yn rhydd y trydydd dydd O’r beddrod prudd, drosom ni. O Geidwad aned, Fe wawriodd arnom ddydd.
O rasol Fair forwynig, Mam Ceidwad bendigedig Yr Iesu dyrchafedig. Ger gorsedd nef eiriola’n gref, Achwyd dy lef drosom ni. O Geidwad aned, Fe wawriodd arnom ddydd.