BETH YW’R HAF I MI?
Beth yw’r haf i mi dim ond gaeaf llwm a dagrau’n lli,
Er pan gollais di nid yw hirddydd haf yn ddim i mi,
Gariad bach er crwydro’n ffol,
Dwed y ddoi di eto nol
Beth yw’r haf i mi dim ond hirlwm ers pan gollais ti.
Trist yw’r galon fach pan fo cwyn y gwynt ym mrigau’r coed
Wedi’r canu’n iach rwyf yn disgwyl clywed swn dy droed,
Gariad bach er crwydro ‘mhell
Tyrd yn ol i gyfarch gwell,
Trist yw’r galon fach; ni bu hiraeth mwy ar neb erioed.
Beth yw’r haf i mi os yw’r fron yn glaf o dan ei chlwy,
Beth yw’r haf i mi os yw’r galon fach war dorri’n ddwy,
Gariad bach er cilio’n ffol
Dwed y doi di eto’n ol
Yna bydd i mi hyfryd haf a dyddiau dedwydd mwy
Другие названия этого текста
- Siân James - Beth Yw'r Haf i Mi? (1)
- Siân James - Beth Yw'r Haf i Mi? (0)
Статистика страницы на pesni.guru ▼
Просмотров сегодня: 1