Y feinwen fwyn lawen fain lân, Ddiogan a diddan ei dydd, Er rhyfyg rwy'n cynnig rhoi cân Dda anian i'r groenlan ei grudd; Pe medrwn da glymwn dy glod, Uchelnod waed hynod wyt ti, A mawredd d'anrhydedd dan rhod, Lliw'r manod ddymunol, Hyfredol, da freiniol dy fri, I'th garu a'th refeddu rwyf fi.
Wrth weled, o laned dy lun, Hardd wiwlan, win forwyn, wen ferch, Cynhyrfodd a hedodd ei hun, Fel deryn 'fwy sydyn, fy serch; Dy rodiad, pêr syniad, pur sydd A'th gynnydd i'n gwledydd yn glod: A minne sy'n diodde bob dydd; Dyn gwastad dan gystudd 'Ran benyw rwy' beunydd yn bod, Yn tramwy'n ofnadwy fy nod.
Wel, dianged, eheded am hyn, Y byd a'i awch freulun, wych fri, A'i sorod, lliw manod, lle y myn - Dy gorffyn glân mwynlun i mi; Ymglymwn, darparwn yn bur Trwy gysur mwyn brysur mewn bri, Mewn cariad didoriad fel dur, A difyr â'i d'ofyn, Mae'th gorffyn mwyn, dichlyn, main di Mwy hvryd na 'mywyd i mi.