Pan oeddwn maes yn rhodio Foreuddydd yn yr haf Fe glywn y ferch o Bedlam yn tiwnio’n felys braf Ac er fod dwylaw Gwen yn gaeth, Mewn hiraeth d’wedai hi, “Mi gara nghariad yn driw i dre, Gwaith fe a’m carodd i”
I’r mor fe aeth fy nghariad, O achos gwaith fy nhad, A minnau drow’d i’r Bedlam Mewn gobaith cael gwellhad; Arosaf yno er ei fwyn, Mor foddlon byddaf fi, Mi gara nghariad yn dryw i dre, Gwaith fe a’m carodd i.
O! ti yw f’annwyl Poli A’th wallt a’i olwg gwyn, Fy annwyl gariad, o paham Yr y’ch chwi’n gofyn hyn? Rwy’n dod i ddweud y cyfan, Mawr helynt gawsom ni; Mi gara nghariad yn driw i dre, Gwaith hi a’m carodd i.