Mae gweld dy wên Fel haul drwy gwmwl du A’th gariad di Yr hafan glyd rhag y drwg.
Mae swyn dy lais Yn falm i mi, mor bur Yn tawelu’r dwr Yn tawelu’r stwr Yn llywio’n glir melodir gân.
Ond mae’r ffordd yn hir Er bod y nos yn glir Ac mae cysgodd oer Yn tywyllu’r tir Cwmwl dynol ryw Cwmwl llwyd di-liw Yn bwrw’i law ar lendid y byd.
Mae tylwyth y byd Ar goll fel y deillion mud Heb wraidd na chân Heb na chalon lân Ai hyn yw’n tynged ni i gyd?
Ac mae’r ffordd yn hir Er bod y gwir yn glir Ond daw llygaid craff I’w weld cyn hyr Ac o gariad dau Fel hedyn wedi’i hau Fe dyfai cariad pur Dros y byd.