Beth yw’r haf i mi dim ond gaeaf llwm a dagrau’n lli, Er pan gollais di nid yw hirddydd haf yn ddim i mi, Gariad bach er crwydro’n ffol, Dwed y ddoi di eto nol Beth yw’r haf i mi dim ond hirlwm ers pan gollais ti.
Trist yw’r galon fach pan fo cwyn y gwynt ym mrigau’r coed Wedi’r canu’n iach rwyf yn disgwyl clywed swn dy droed, Gariad bach er crwydro ‘mhell Tyrd yn ol i gyfarch gwell, Trist yw’r galon fach; ni bu hiraeth mwy ar neb erioed.
Beth yw’r haf i mi os yw’r fron yn glaf o dan ei chlwy, Beth yw’r haf i mi os yw’r galon fach war dorri’n ddwy, Gariad bach er cilio’n ffol Dwed y doi di eto’n ol Yna bydd i mi hyfryd haf a dyddiau dedwydd mwy