Гуру Песен Популярное
А Б В Г Д Е Ж З И К Л М Н О П Р С Т У Ф Х Ц Ч Ш Э Ю Я
# A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z

Siân James - Camu 'nôl (wrth gamu 'mlaen) | Текст песни

CAMU ’NÔL (WRTH GAMU ’MLAEN)

Ble mae’r cadernid a fu
Y sicrwydd oedd i’n cariad ni
A ble mae’r gonestrwydd ’di mynd
Y chwerthin oedd i’n cariad ni?
Dydi chwarae’n saff
Ddim yn graff fy ffrind
Rhaid wynebu’r ffaith
A chyfarch y gwir

Do! do mi gefais lond bol
O’r celwydd cudd tu ôl i dy wên.
A do, ’dwi ’di amau ers tro
Ddyfod ti fel fi am symud ’mlaen.
Dydi chwarae’n saff
Ddim yn graff fy ffrind
Rhaid wynebu’r ffaith
A chyfarch y gwir.

Ond mae’r cwestiwn dal yn boen
Yn poeni’r gydwybod
’Di’r ymdrech ’di bod yn deg?

Camu ’nôl wrth gamu ’mlaen (yn ôl a ’mlaen)
Camu ’nôl wrth gamu ’mlaen (yn ôl a ’mlaen)
Camu ’nôl wrth gamu ’mlaen (yn ôl a ’mlaen)
Camu ’nôl wrth gamu ’mlaen (wyt ti a mi)

Da ni wedi gwisgo ein cariad
Fel cot law mewn cawod drom
A ’nawr mae’r haul eto’n gwenu
A’r got yn ddiwerth heb y storm
Ti’m yn gweld yn glir
Yn ddall rhy hir
Rhaid wynebu’r ffaith
A chyfarch y gwir

Ond mae’r ofnau’n dal i droi
Yn troi’n fy nghydwybod
’Di’r ymdrech ’di bod yn un deg

Camu ’nôl wrth gamu ’mlaen (yn ôl a ’mlaen)
Camu ’nôl wrth gamu ’mlaen (yn ôl a ’mlaen)
Camu ’nôl wrth gamu ’mlaen (yn ôl a ’mlaen)
Camu ’nôl wrth gamu ’mlaen (wyt ti a mi)

Статистика страницы на pesni.guru ▼
Просмотров сегодня: 2
Видео
Нет видео
-