Dy wylio’n chwarae yn yr ardd Gan lwyr ymroi i swyn y dyddiau braf. Mi ddaw y glaw yng ngwanwyn d’oes, fy mach, I lygru’th ddiniweidrwydd hardd.
Oes modd d’amddiffyn di Fy ngeneth fach pa beth a wnaf? A liwiaist luniau hud mewn hwyl? A luniaist arwr i’th gadw di rhag cam?
O, dwed wrthym ’nawr Cyn i Amser el gipio o’th law, Beth yw’r gyfrinach ddrud sy yn dy feddiant A dyr y byd efallai yn lle gwell – iti a mi.
Syllodd arnaf a gofyn pam, Paham fod niwl yn pylu gwên ei mam. cyffyrddodd yn fy nagrau, gwenu’n brudd Heb ddeall beth a’m poenai i.
Ceisiais eirio nryswch, Fy ngeneth fach – cyn hir fe ddoi di i ddallt Fy ngobaith yw na chwal dy fyd Fy ngobaith yw nad yw’n rhy hwyr.
O, dwed wrthym ’nawr Cyn i’r Garaf llwm ei ddwyn o’th law, Mae’n rhaid iti rannu’th gyfrinach ddrud. Fel y gallwn wneud y byd yn dragwyddol braf – i ti a mi... i ni i gyd.