Cododd awel gre’ o’r dwyrain Mae’n wanwyn eto Mhrâg Daw â’i chri i’n hirlwm ninnau ddinasyddion Prydain rydd Y ni sy’n rhydd i gael ein prynu yn rhydd i werthu’n tir Ond mi glywn y gri fod y rhod yn troi.
Ganed ni i fwrdd o friwsion ar set deledu lliw – Sgrin wydr rhyngom ni a’n trueni a gwerthodd Kylie a J.R. Yn wyston mud yng ngêm y farchnad ar olwyn fawr y ffair Ond cawn ganu’n rhydd Pan fo’r rhod yn troi
Mae awel gre’ dros Foel Faban a gwylan fry uwchben Yn cylchu corlan ein dyheadau ac yn crawcian ‘rhyddid’ nerth ei phen Mae ’na long tu hwnt i’r llygad yn hwylio mewn i’r bae a’r gwynt yn ei hwyliau Yw’r rhod yn troi ac mae rhod yn troi mae’r rhod yn troi...