Mae i’w weld yma’n glir Yma ym mhen pella’r dref, Mae hen sgerbwd y pwll Yn mestyn am y nef. Mae’r esgyrn yn goch Gyda rhwd y di-werth, Tra thwf y chwyn yn wyllt Hyd yr hen lwybrau serth.
Dŷn nhw ddim eisiau’r glo, Dŷn nhw ddim ein heisiau ni, A dim ond atgof da i ddim Yw hen weithwyr fel fi. Mae fy nydd wedi bod Fel un sgerbwd y bryn, Mae fy nwylo yn lân Cyn i ngwallt droi yn wyn.
Mae pob plentyn a ddaw Bron â marw eislau ffoi, Ers i’r hen olwyn fawr Beidio â throi Mae’r peiriannau oll i gyd ’Nawr yn ddistaw eu cân, Tra mae’r bryn oedd mor ddu Heddiw’n wyrdd – gwyrdd a glân.
Rwyf yn ofni beth ddaw, Mae ’na frath ym min y gwynt, Tybed beth gaf i’w wneud Ble gaf i fynd? ’Nawr mae nwylo yn lân Cyn i ngwallt gael troi yn wyn, Ond o, Dduw! nid wyf am fod Fel y sgerbwd ar y bryn.