Гуру Песен Популярное
А Б В Г Д Е Ж З И К Л М Н О П Р С Т У Ф Х Ц Ч Ш Э Ю Я
# A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z

Siân James - Yr Eneth Glaf | Текст песни

YR ENETH GLAF

Y mae’r haf yn hir yn dyfod
Meddai geneth fechan glaf
Pryd mae’r gwanwyn yma i ddarfod
Pryd fy mam y daw yr haf?

Dweud o hyd y mae ’nghyfeillion
Dyma’r unig gysur a gâf
“Cwyd dy galon eneth dirion
Mi fendi di pan ddaw yr haf.”

Oes rhyw arwydd fod hi’n c’nesu?
Oes briallu hyd y nant?
Ydi’r adar bach yn nythu
Ym mieri gwyllt y pant?

Dweud o hyd y mae ’nghyfeillion
Dyma’r unig gysur a gâf
“Cwyd dy galon eneth dirion
Mi fendi di pan ddaw yr haf.”

Chlywodd neb y gôg eleni
Ar hen dderwen fawr y ddôl
Ond i honno ddechre canu
Haws it wenu ar ei hôl.

Ond pan aeth y dyddiau heibio
Dyma’r unig gysur a gâf
Ar ei beddrod yn blodeuo
Y gwelir heddiw flodau’r haf.

Другие названия этого текста
  • Siân James - Yr Eneth Glaf (0)
  • Siân James - Yr Eneth Glaf 1 (0)
Статистика страницы на pesni.guru ▼
Просмотров сегодня: 1
Видео
Нет видео
-