Yr Undeb Rhyngwladol
T.E. Nicholas
Deffrowch, orthrymedigion daear,
Cyfodi mae'r newynog lu!
Daw gwirioneddau'r bywyd newydd
I chwalu niwl yr oesoedd fu.
Wele gaethion y cystudd hirfaith
Yn ymuno'n fyddin fawr,
I gyhoeddi rhyddid i'r cenhedloedd
Ac i'r ddynolryw doriad gwawr.
Henffych weithwyr y gwledydd,
Dyma'r frwydr ola'i gyd!
Mae'r undeb rhyngwladol
yn newid seiliau'r byd.
Статистика страницы на pesni.guru ▼
Просмотров сегодня: 1