Heddiw, mae’n heulog. Mae’n haf. Mae Fflwff yn chwarae gyda ei llygoden tegan. Yn ddisymwth, mae Fflwff yn gweld pili pala yn hedfan drwy’r ffenest. Mae’r pili pala yn glanio ar y llenni. Mae’n ymestyn ei adenydd e.
Mae Fflwff yn meddwl fod y pili pala yn hudol. Mae hi’n cerdded at y pili pala, yn araf. Mae’r pili pala yn hedfan i fyny’r llenni.
Mae Fflwff yn dechrau dringo’r llenni. I fyny ac i fyny, i’r pen. Yna mae’r pili pala yn hedfan ymaith trwy’r ffenest. Mae Fflwff yn methu symud.
Mae’r llenni yn siglo. O diar! Mae Fflwff a’r llenni yn cwympo i’r llawr. Wps!!
--------------------- heddiw - сегодня heulog - солнечно haf - лето chwarae - играть llygoden - мышь tegan - игрушка yn ddisymwth - внезапно gweld - видеть pili pala - бабочка hedfan - летать trwy - через ffenest - окно glanio - приземляться llenni - шторы ymestyn - расправлять adenydd - крылья meddwl - думать hudol - восхитительный cerdded - идти yn araf - медленно fyny - вверх dechrau - начинать dringo - карабкаться pen - верх ymaith - прочь methu symud - не может двигаться siglo - трясти o diar - о, дорогой cwympo - падать llawr - пол wps - упс