Гуру Песен Популярное
А Б В Г Д Е Ж З И К Л М Н О П Р С Т У Ф Х Ц Ч Ш Э Ю Я
# A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z

Plethyn - Tân yn Llŷn | Текст песни

Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?
Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn?
Tân yn ein calon, a thân yn ein gwaith
Tân yn ein crefydd, a thân dros ein hiaith.

Tân, tân, tân, tân,
Beth am gynnau tân fel y tân yn Llŷn.

D.J., Saunders a Valentine
Dyna i chwi dân gynheuwyd gan y rhain!
Tân yn y gogledd yn ymestyn lawr i’r de
Tân oedd yn gyffro drwy bob lle.

Gwlad yn wenfflam o’r ffin i’r môr,
Gobaith yn ei phrotest, a rhyddid iddi’n stôr;
Calonnau’n eirias i unioni’r cam
A’r gwreichion yn Llŷn wedi ennyn y fflam.

Ble mae tân a gynheuwyd gynt?
Diffoddwyd gan y galw, a chwalwyd gan y gwynt.
Ai yn ofer yr aberth, ai ofer y ffydd
Y cawsai’r fflam ei hail-gynnau rhyw ddydd?


Статистика страницы на pesni.guru ▼
Просмотров сегодня: 1
Видео
Нет видео
-