Dacw nghariad i lawr yn y berllan Tw-rym-di-ro rym-di-radl-idl-al O na bawn i yno fy hunan Tw-rym-di-ro rym-di-radl-idl-al Dacw’r tŷ a dacw’r sgubor Dacw ddrws y beudy’n agor Ffal-di-rw-di-lidl-al Ffal-di-rw-di-lidl-al Tw-rym-di-ro rym-di-radl-idl-al
Mae rhai mannau ar y mynydd Tw-rym-di-ro rym-di-radl-idl-al Ac sy’n llawer gwell na’i gilydd Tw-rym-di-ro rym-di-radl-idl-al A llefydd nas gall neb eu ’nabod Felly hwythau y genethod Ffal-di-rw-di-lidl-al Ffal-di-rw-di-lidl-al Tw-rym-di-ro rym-di-radl-idl-al
Dacw’r delyn, dacw’r tannau Tw-rym-di-ro rym-di-radl-idl-al Beth wyf well heb neb i chwarae Tw-rym-di-ro rym-di-radl-idl-al Dacw’r feinwen hoenus fanwl Beth wyf well heb gael ei meddwl Ffal-di-rw-di-lidl-al Ffal-di-rw-di-lidl-al Tw-rym-di-ro rym-di-radl-idl-al
Rhoes fy mryd ar fachgen tirion Tw-rym-di-ro rym-di-radl-idl-al Hyn sy bron â torri nghalon Tw-rym-di-ro rym-di-radl-idl-al A bu’n achos iddo yntau Wylo peth amdana’ finnau Ffal-di-rw-di-lidl-al Ffal-di-rw-di-lidl-al Tw-rym-di-ro rym-di-radl-idl-al